Topic outline
- General
General
- Camau at Gynaliadwyedd (Ledled y DU) - Ceisiadau Rownd 2 ar Agor
Camau at Gynaliadwyedd (Ledled y DU) - Ceisiadau Rownd 2 ar Agor
Mae sefydliadau treftadaeth ledled y DU dan bwysau cynyddol a chyfyngiadau ariannol, gyda llawer yn wynebu heriau eithafol i sicrhau dyfodol sefydlog.
Gydag effaith ychwanegol Covid-19, mae angen diwylliant o fentergarwch i adeiladu sector treftadaeth cynaliadwy a gwydn yn awr yn fwy nag erioed.
Bydd Camau at Gynaliadwyedd, rhaglen newydd gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol a ddarperir gan yr Academi Mentrau Cymdeithasol, yn darparu llwybr cymorth i fynd i'r afael â'r heriau hyn. Bydd yn helpu eich sefydliad i fod yn uchelgeisiol, yn flaengar ac i gyflawni prosiectau newydd cyffrous.
Ar y daith 15 mis hon, byddwch yn dysgu edrych tuag allan, adeiladu partneriaethau cryfach a dod yn fwy cyfforddus gyda'r agweddau masnachol sydd ynghlwm â rhedeg sefydliad treftadaeth. Gan ddysgu gyda rhwydwaith o gyfoedion ac arbenigwyr yn y sector o bob rhan o'r DU, byddwch yn troi syniad busnes newydd yn realiti.
Manylion y Rhaglen
Cliciwch ar eich rhanbarth i ddod o hyd i ddyddiadau rhaglenni ac i wneud cais
Buddion y Rhaglen
Drwy gymryd rhan, bydd gennych fynediad at:
Ffi Cyfranogi
£50 y pen (£100 y sefydliad os oes dau berson yn mynychu)
Mae’n wych cysylltu â phobl newydd a chael cymaint o gefnogaeth ac adnoddau. Rwy'n credu y gall hyn fod yn drawsnewidiol i ni." ." Samantha Walker, Ymddiriedolaeth Cadwraeth St Andrews, cyfranogwr Rownd 1
Pwy ddylai wneud cais?
Sefydliadau treftadaeth bach i ganolig wedi'u lleoli yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon a'r rhai hynny sydd am fynychu rhaglen a gyflwynir trwy gyfrwng Gaeleg yr Alban:
- Sydd â syniad cynhyrchu incwm nad yw wedi'i ffurfio'n llawn eto
- Sydd angen yr adnoddau a'r gefnogaeth y mae'r rhaglen hon yn eu cynnig er mwyn cyflawni’r syniad hwn
- A fydd yn rhyddhau hyd at ddau berson, yn ddelfrydol ymddiriedolwr a gwirfoddolwr neu aelod o staff, i gymryd rhan
- Sy’n gallu ymrwymo i amserlen lawn y rhaglen a’r ffi o £50 y pen i gael mynediad i'r holl gymorth
Gweler y Cwestiynau Cyffredin ar gyfer meini prawf cymhwysedd llawn a gofynion cyfranogi. Mae gennym ddiddordeb clywed gennych hyd yn oed os nad ydych yn credu y gallwch ddiwallu'r gofynion hyn yn llawn, e-bostiwch stos@socialenterprise.academy i'n hysbysu o'ch sefyllfa benodol.
Gwnewch gais erbyn: Dydd Gwener 23 Gorffennaf 2021
Cofrestrwch eich diddordeb am y cyfle hwn - stos@socialenterprise.academy
Sesiwn creu cais olaf - Dydd Mercher 21 Gorffennaf 10yb - Ebost stos@socialenterprise.academy
Cliciwch y botwm isod i lawrlwytho'r pecyn cais ac i wneud cais:
Mwy o Wybodaeth
Lisa Davies | lisa@socialenterprise.academy
Gwenllian Thomas I gwenllian@socialenterprise.academy
0300 111 5050
Bydd y prosiect yn cael ei arwain a’i reoli gan Academi Mentrau Cymdeithasol yr Alban ac Academi Mentrau Cymdeithasol Cymru (a weithredir gan Gwmni Buddiannau Cymunedol (CIC) Creu Menter mewn partneriaeth â Chanolfan Cydweithredol Cymru).
Cefnogir y prosiect hefyd gan bartneriaid yn y sector - Cymdeithas Amgueddfeydd Annibynnol, Orielau Amgueddfeydd yr Alban, Cyngor Amgueddfeydd Gogledd Iwerddon a Ffederasiwn Amgueddfeydd ac Orielau Celf Cymru.